Mae Arweinydd Plaid Cymru yn dweud bod gwireddu annibyniaeth i Gymru yn flaenoriaeth ganddo.

Ac mae Adam Price yn dweud y byddai ef a’r blaid yn “symud ar frys” tuag at annibyniaeth pe bai’n llwyddo i ennill etholiadau 2021.

“Mi oedd yna sawl gyfeiriad tuag at annibyniaeth – yn uniongyrchol ac yn anuniongyrchol – yn ystod fy araith [yn y gynhadledd],” meddai wrth golwg360, chwe mis ers iddo ddod yn arweinydd Plaid Cymru. “Dyna yr ydym yn anelu ati.

“Wrth gwrs, y cam cyntaf yn awr … ydi ennill etholiad. Dyna’r cam cyntaf – ffurfio llywodraeth. Yr ail gam ydi ail-adeiladu ffydd ac ymddiriedaeth pobol Cymru yn eu llywodraeth genedlaethol.

“Dangos eich bod yn gallu bod yn arloesol ac yn uchelgeisiol ac yn y blaen. Ac yn benodol wrth gwrs, rhoi’r economi ar fwa positif. Dangos ein bod yn gallu cau’r bwlch o ran ffyniant.

“Felly mae’r camau yna at annibyniaeth. Roedden nhw yng nghanol yr araith heddiw, ac mi fyddan nhw wrth [galon ein gwaith] dros y ddwy flynedd nesaf.”

Anerchiad

Brynhawn Gwener (Mawrth 22) fe draddododd Adam Price ei ‘Araith yr Arweinydd’ gan gyfeirio at “yr her o adeiladu’r Blaid yn blaid i Gymru gyfan”, a’r angen i “dorri drwyddo o’r newydd y tu hwnt i’n cadarnleoedd hanesyddol”.

Ond fe ymrwymodd hefyd i beidio â chefnu ar gadarnleoedd Plaid Cymru yng ngorllewin Cymru.

“Wrth i ni ennill tir newydd, rhywbeth i ymfalchïo ynddo bob amser fydd y lefel gyson o gefnogaeth i’r blaid hon yn y rhannau yma o’r byd – yn y gorllewin Cymraeg,” meddai Adam Price.

“Fydden i, yn bersonol, ddim yn aelod etholedig oni bai am hynny.

“Felly gadewch i mi ddatgan yn glir … fyddwn ni byth yn cymryd yn ganiataol y gefnogaeth yna, fel y mae’r Blaid Lafur wedi cymryd yn ganiataol eu cefnogaeth nhw.”