Daeth cadarnhad mai corff athrawes o Gaerdydd a gafodd ei ddarganfod ym Mro Morgannwg ddechrau’r wythnos (dydd Sul, Mawrth 17).

Daethpwyd o hyd i gorff Elin Boyle, 43, gan Heddlu De Cymru ar Drwyn yr As, sydd ar arfordir Bro Morgannwg.

Bu pryderon am yr athrawes yn Ysgol Plasmawr, gan nad oedd neb wedi ei gweld ers Mawrth 12.

Mewn datganiad, dywed ei theulu eu bod nhw’n teimlo’n “ofnadwy o drist” ar ôl colli person a oedd yn “wirioneddol arbennig”.

“Y ddawn i wneud eraill i deimlo’n well”

“Mae’n anodd disgrifio pa mor boenus yw colli un annwyl drwy’r salwch meddyliol creulon hwn y bu rhaid i Elin frwydro yn ei erbyn am dros 25 o flynyddoedd,” meddai’r teulu mewn datganiad.

“Hoffem ddiolch i Heddlu De Cymru a thimau achub yr arfordir am eu holl help a’u cefnogaeth wrth geisio dod o hyd i Elin, nid yn unig y tro hwn ond hefyd ar achlysuron blaenorol ac i staff a disgyblion Ysgol Plasmawr am eu cefnogaeth gyson i ni fel teulu.

“Roedd hi’n berson wirioneddol arbennig a thrueni mawr nad yw yma i weld yr holl gariad sy’n cael ei mynegi amdani.

“Roedd ganddi’r ddawn i wneud i eraill deimlo’n well ac yn hapus a byddai’n mynd y filltir ychwanegol i helpu eraill.

“Ein hunig gysur yw bod Elin bellach mewn hedd. Cysga’n dawel.”

Dywed yr heddlu nad ydyn nhw’n trin y farwolaeth fel un amheus.