Mae cyn-Aelod Seneddol a wnaeth argymell newid enw Plaid Cymru wedi egluro ei safiad ar y mater.

Adeg hydref y llynedd cafodd Angus Robertson – a fu’n arweinydd ar yr SNP yn San Steffan – ei gomisiynu i adolygu strwythur y Blaid.

Daeth y gwaith yna i ben ym mis Ionawr, a’r wythnos diwethaf daeth rhai o’i argymhellion i’r fei. Un o’r rheiny yw mabwysiadu New Wales Party/Plaid Cymru Newydd yn enw.

Yn siarad wedi ei anerchiad yng nghynhadledd y Blaid ym Mangor mae’r cyn-Aelod Seneddol SNP yn awgrymu bod ei argymhelliad wedi cael ei gamddehongli.

“Bydd Plaid Cymru wastad yn cael ei alw’n Plaid Cymru,” meddai wrth golwg360.

“Nid enw’r blaid yw’r broblem. Dyma yw’r cwestiwn: Sut mae cyfathrebu gyda phobol yng Nghymru sydd ddim yn siarad Cymraeg?

“Dw i wastad wedi bod yn awyddus iawn i ddefnyddio’r term ‘Plaid Cymru – The Party of Wales’. Hynny yw, yr enw yn y ddwy iaith.

“Mae angen i’r blaid feddwl am sut maen nhw’n cyflwyno ei hun dros Gymru gyfan – ac yn y ddwy iaith. Does dim angen cael gwared ar yr enw ‘Plaid Cymru’.

Argymhellion

Yn y gynhadledd dywedodd Angus Robertson y bydd Plaid Cymru’n “troi’n beiriant ennill etholiad” ac amlinellodd ffactorau byddai’n cyfrannu at wireddu hynny.

  • Ymdeimlad o bwrpas
  • Awydd i weithredu ar frys
  • Momentwm
  • Arweinyddiaeth
  • Gweithredu ar lawr gwlad