Mae’r Eisteddfod Genedlaethol wedi cyhoeddi bod newidiadau i safle’r maes yn Nyffryn Conwy yn cael eu cynllunio am nad yw hi’n bosib cael yswiriant.

O ganlyniad, mae Bwrdd Rheoli’r Eisteddfod wedi penderfynu bod rhaid addasu eu cynlluniau, sy’n cynnwys “edrych y tu hwnt” i’r safle presennol yn Llanrwst.

Yn ôl rheolwyr y brifwyl, mae adroddiadau technegol yn manylu risgiau llifogydd ar y safle ac mae wedi dod i’r amlwg nad oes modd yswirio’r Eisteddfod ar sail y cynlluniau presennol.

Maen nhw’n dweud bod iechyd a diogelwch yn “flaenoriaeth bennaf” wrth gynllunio’r safle a’i adnoddau.

Bydd yr Eisteddfod Genedlaethol yn ymweld ag ardal Dyffryn Conwy ym mis Awst 2019.

“Edrych y tu hwnt i’r safle”

“Fe wnawn barhau i gynnal trafodaethau cyson er mwyn sicrhau bod modd cytuno ar gynlluniau y gellid eu hyswirio,” meddai Prif Weithredwr yr Eisteddfod Genedlaethol, Betsan Moses.

“Ar hyn o bryd, dyw hynny ddim yn bosib o ganlyniad i’r pryderon diogelwch sy’n ymwneud â’r afon gyfagos ac effeithiau dŵr ar y tir mewn rhannau o’r safle.  Felly fe fyddwn yn ail-lunio’n cynlluniau presennol ac ystyried opsiynau i ddefnyddio tiroedd eraill sy’n ffinio ar y safle.

“Rydym yn obeithiol bod modd datrys y problemau drwy wneud hynny, ond os bydd angen, fe fyddwn yn edrych y tu hwnt i’r safle sydd gennym ar gyfer datrysiad.  Fe allai hynny olygu gorfod symud prif safle’r Maes, ond rydym yn gweithio’n galed i osgoi hynny wrth reswm.

“Dydi cyflwyno newidiadau i safle’r Eisteddfod ddim yn gam y byddwn yn dymuno ei gymryd mor hwyr yn y broses drefnu wrth gwrs.  Ond gan fod pryderon iechyd a diogelwch yn parhau mor gryf, mae’n gam hanfodol.

“Rydym yn gwbl benderfynol y bydd Eisteddfod Genedlaethol Sir Conwy 2019 yn un hynod lwyddiannus i bobl leol ac i’r holl ymwelwyr sy’n dod i’r ardal.”