Mae ymgyrchwyr tros addysg Gymraeg yn Abertawe yn dweud eu bod yn disgwyl twf o 800 o ddisgyblion yn ysgolion Cymraeg y ddinas ymhen degawd.

Mae cynlluniau ar y gweill eisoes i godi dau adeilad newydd sbon, y naill ar gyfer 525 o ddisgyblion yn Ysgol Tirdeunaw ar safle Ysgol Gyfun Bryn Tawe ym Mhenlan, a’r llall yn Ysgol Tan-y-lan ar gyfer 420 o ddisgyblion yn ardal y Clas.

Cafodd Ysgol Tirdeunaw ei hagor gyda 18 o ddisgyblion yn 1994, ac fe fu ymgyrchwyr yn brwydro i’w chadw ar ei safle presennol er na lwyddon nhw i sicrhau hynny ac maen nhw bellach yn gofidio y gallai’r safle gael ei defnyddio ar gyfer ysgol Saesneg.

Ar ôl i Eluned Morgan a Llywodraeth Cymru ymyrryd yng nghynllun datblygu addysg Gymraeg y Cyngor, daeth sicrwydd y byddai Ysgol Tan-y-lan yn cael ei hymestyn.

Er iddi agor yn y Clas, roedd ymgyrchwyr yn awyddus i gael ysgol ar dir rhwng Treforys ac Ynysforgan, ryw saith milltir i ffwrdd.

Mae’r datblygiadau diweddaraf yn golygu y bydd Ysgol Tan-y-lan yn croesi ffiniau dalgylch Tirdeunaw, ac y bydd Tirdeunaw yn symud yn nes at ardal Cwmbwrla a Threfansel ar gyrion y ddinas.