Dyw’r rhan fwya’ o ddigrifwyr cyfoes ddim yn haeddu cael eu crybwyll yn yr un anadl ag Eirwyn Pontsiân, meddai un o gyfeillion pennaf y saer coed a’r diddanwr o gefn gwlad Ceredigion sy’n cael ei goffau mewn gŵyl yr wythnos hon.

Yn ei ddarlith i nodi chwarter canrif ers marw Gwilyn Eirwyn Jones yn Chwefror 1994, mae Lyn Ebenezer yn dweud mai dyma’r crefftwr diwylliedig a roddodd fod i berfformio comedi “stand-yp”, cyn bod y grefft honno’n bod yn swyddogol.

“I nifer, yn yr Eisteddfod Genedlaethol yr oedden nhw’n gweld Eirwyn,” meddai Lyn Ebenezer wrth neuadd lawn Ffostrasol neithiwr (nos Lun, Mawrth 18). “Ac i nifer, Eirwyn oedd yr Eisteddfod Genedlaethol.

“Y tro cyntaf i mi gwrdd ag e oedd yn Eisteddfod Genedlaethol Caernarfon 1959… ro’n i’n cerdded heibio gwesty’r Royal, pan glywes i bobol yn chwerthin ac yn cymeradwyo… a phwy oedd yno, yn diddanu pobol gyda’i straeon, ond Eirwyn. Doedd bywyd byth yr un fath i mi wedyn.

“Weles i’r dyn bach, mwstashiog yma a’r cap stabal gwyn am ei ben… ac roedd e wedi dal y gynulleidfa yng nghledr ei law. Wy’n credu taw Myrddin ap Dafydd ddywedodd, fod Eirwyn yn gwneud stand-yp cyn bod y term wedi’i fathu!

“Ond, fel y gweles i dros 35 mlynedd o drafod a sgwrsio, dim ond fe a fi, roedd llawer mwy i’r dyn na’r perfformio mewn tafarn,” meddai Lyn Ebenezer. “Roedd e’n poeni am bethe, am Gymru, am yr iaith, am wleidyddiaeth…

“Roedd e’n ddyn annwyl a dwys iawn, ac fel nifer o ddigrifwyr, yn poeni am bethe na fedre fe wneud dim byd yn eu cylch nhw.”