Mae arlunydd a greodd ddarlun i ddathlu Camp Lawn tîm rygbi Cymru yn gwerthu llyfr o ‘ddŵdls y mis’ at elusen er cof am fachgen bach dwy oed fu farw yn 2015.

Mae elusen Jac Bach – er cof am Jac Harrison – yn helpu plant sydd angen triniaeth a fydd yn newid eu bywydau nhw, a’u teuluoedd, ac fe gafodd ei sefydlu gan ei rieni Siân ac Andy.

Cafodd Jac ei eni ar Ebrill 12, 2012 – hanner awr ar ôl ei efaill Wil – ac fe fu’n dioddef o salwch nad oedd modd ei esbonio am ran helaeth o’i fywyd.

Fe fu farw ym mreichiau ei fam ar Chwefror 3, 2015.

Dŵdl y Mis

Aeth yr arlunydd Rhys Padarn Jones (Orielodl) ati i lunio un dŵdl y dydd bob dydd ym mis Chwefror, fel rhan o her ehangach i godi arian at ddeuddeg o elusennau gwahanol yn ystod y flwyddyn.

Mae’r llyfr diweddaraf hwn yn cael ei werthu ar wefan e-bay tan 9 o’r gloch heno (nos Sul, Mawrth 17).

Mae’r casgliad o 28 dŵdl wedi cael ei roi at ei gilydd ar ffurf llyfr, a phob un yn ei arddull unigryw o gynnwys geiriau adnabyddus yn rhan o’r darluniau.

Mae’n gasgliad o eiriau allan o rigymau, caneuon poblogaidd, diarhebion a cherddi.

Mae’n defnyddio ‘sharpie’ (marciwr du) i greu’r darluniau ar bapur gwyn trwchus.

Mae’r arlunydd wedi llofnodi pob un o’r gweithiau’n unigol, ac mae modd cadw’r llyfr fel casgliad neu fel gweithiau unigol i’w fframio.