Mae Channel 4 wedi comisiynu cyfres gomedi newydd – am fewnfudwyr o Loegr yn ymgartrefu yng Nghymru.

Mae Llas Vegas, gan gwmni cynhyrchu Plum Pictures o Lundain, yn dilyn hynt a helynt cymeriad Johnny Vegas a’i gynorthwy-ydd o Loegr sy’n sefydlu gwersyll yn y gogledd.

Maen nhw’n troi bysus yn gartrefi gwyliau, heb fod ganddyn nhw brofiad blaenorol o redeg busnes, yn barod ar gyfer tymor yr haf.

‘Un o gyrchfannau twristiaid mwyaf eiconig y wlad’

“Dyma Johnny fel nad ydyn ni wedi ei weld e erioed o’r blaen, yn dilyn ei freuddwyd o sefydlu’r gwersyll glampio delfrydol, o’r freuddwyd hyd at ei gwireddu,” meddai Jonathan Rothery, Golygydd Comisiynu Channel 4.

“Rydym wrth ein bodd ei fod e a Bev wedi dewis rhannu eu hantur glampio gyda ni.

“Mae’n sicr y daw Llas Vegas yn un o gyrchfannau twristiaid mwyaf eiconig y wlad – os gall Johnny hel yr arian, prynu’r bysus, trefnu caniatâd cynllunio, cael cefnogaeth y bobol leol a chadw at amserlen.

“Beth allai fynd o’i le?”

Derbyniad

Yn dilyn helynt Pitching In, cyfres debyg ar y BBC, mae Llas Vegas eisoes wedi cael derbyniad negyddol.

Mae Andrew Henley, sy’n ei ddisgrifio’i hun ar Twitter fel dyn o Swydd Efrog sy’n byw yng Ngheredigion, yn codi amheuon am y gyfres.

“Unrhyw beth mae BBC Cymru yn gallu ei wneud (i bortreadu ystrydebau israddol o ddiwylliant a chymdeithas Cymru), gall Channel 4 ei wneud yn well?

“Wir yr, Channel 4, rydyn ni’n disgwyl gwell gennych chi.

“(A dydi Llas Vegas wir ddim yn ddoniol, mae’n sarhau ooooooau o siaradwyr a dysgwyr Cymraeg.”

Mewn neges yn dilyn ei sylwadau gwreiddiol, mae Andrew Henley yn tynnu sylw Eluned Morgan, Gweinidog y Gymraeg, a Kirsty Williams, Ysgrifennydd Addysg Cymru, at y gyfres, gan ofyn a fyddan nhw’n gofyn am eglurhad gan Channel 4.