Mae pryderon am ddynes 43 oed sydd ar goll o Gaerdydd.

Does neb wedi gweld Elin Boyle, sy’n byw yn ardal Danescourt y brifddinas, ers tua 5.50yp dydd Mawrth (Mawrth 12).

Dyma’r ail waith iddi fynd ar goll o fewn pedwar mis.

Mae hi’n cael ei disgrifio fel dynes o gorffolaeth ganolig, a chanddi wallt a llygaid brown.

Pan gafodd ei gweld ddiwethaf, roedd hi’n gwisgo het binc, côt ddu, esgidiau rhedeg Sketcher glas a phinc, a jîns glas.