Mae’r heddlu sy’n chwilio am ddyn 21 oed yn Abertawe wedi cyhoeddi fideo yn dangos ei symudiadau ar y noson yr aeth ar goll.

Does neb wedi gweld Tapiwa Matuwi – sy’n cael ei adnabod wrth yr enw Tapi – ers Chwefror 7.

Roedd e wedi bod allan yn y ddinas y noson flaenorol, ac mae’r fideo’n ei ddangos mewn sawl lleoliad yn y ddinas.

Cafodd ei weld yn McDonald’s yng nghanol y ddinas cyn mynd am archfarchnad Sainsbury’s ger y Marina.

Cafodd ei weld ddiwethaf yn ardal Clwb Hwylio Abertawe am 7.06yb, fore Iau, Chwefror 7.

Mae’r heddlu’n apelio unwaith eto am dystion a allai fod wedi ei e weld e.