Megan Colbourne o Landysul fydd Swyddog Materion Cymraeg llawn amser cyntaf Undeb Myfyrwyr Prifysgol Abertawe, gan ddechrau yn ei swydd ym mis Mehefin.

Mae’r swyddog presennol yn cwblhau’r rôl yn rhan-amser ac yn wirfoddol, ond mae’r drefn yn newid y flwyddyn academaidd nesaf, yn dilyn pleidlais i’w throi’n swydd lawn amser.

Bydd y fyfyrwraig Daearyddiaeth yn cydweithio’n agos â’r swyddogion sabothol eraill, Undeb y Myfyrwyr ac Academi Hywel Teifi wrth gwblhau ei gwaith.

Bydd hi’n gyfrifol am gynrychioli buddiannau myfyrwyr Cymraeg ym meysydd lles, diwylliant, celf, chwaraeon a gweithgareddau eraill y brifysgol.

Mae hi’n ymuno â chriw o ferched i gyd ar y tîm Swyddogion Llawn Amser – Grace Hannaford (Llywydd), Teresa ‘Tee’ Ogbekhiulu (Addysg), Inês Teixeira-Dias (Cymdeithasau a Gwasanaethau), Ffion Davies (Chwaraeon) ac Ana Guri (Lles).

Dyma’r tro cyntaf erioed i ferched i gyd gael eu hethol.

Llongyfarchiadau

“Roedd hi’n wych bod myfyrwyr wedi pleidleisio dros gael Swyddog Materion Cymraeg llawn amser y llynedd, gan eu bod nhw’n teimlo nad oedd digon o gynrychiolaeth i siaradwyr Cymraeg na’r iaith Gymraeg o fewn y brifysgol,” meddai Gwyn Aled, Llywydd Undeb Myfyrwyr Prifysgol Abertawe.

“Nawr mae Megan wedi ennill yr etholiad, ac mae’r Undeb yn edrych ymlaen at gydweithio â hi i sicrhau bod myfyrwyr Cymraeg eu hiaith yn cael eu cynrychioli’n deg, a bod myfyrwyr rhyngwladol yn cael blas ar ddiwylliant Cymreig yn ystod eu hastudiaethau yma yn Abertawe.”

Mae Megan Colbourne wedi cael ei llongyfarch gan Dr Gwenno Ffrancon, Cyfarwyddwr Academi Hywel Teifi yn y brifysgol.

“Hoffai Academi Hywel Teifi longyfarch Megan ar gael ei hethol yn Swyddog Materion Cymraeg llawn amser cyntaf Undeb Myfyrwyr Cymraeg Prifysgol Abertawe,” meddai.

“Bydd y cam blaengar hwn yn sicrhau bod llais cryfach o fewn yr Undeb i’r miloedd o siaradwyr Cymraeg sy’n fyfyrwyr yn y Brifysgol.

“Edrychwn ymlaen fel Academi at gydweithio’n agos â Megan wrth gefnogi, datblygu a hyrwyddo’r ddarpariaeth addysgol a’r gwasanaethau Cymraeg o fewn yr Undeb a’r Brifysgol.”