Mae dyn o Loegr wedi cael ei gyhuddo o gyflawni toreth o droseddau yng Nghymru.

Gerbron Llys Ynadon Llanelli, fe gafodd Harrison James Coe, 18, ei gyhuddo o drefnu taith i berson arall gyda’r nôd o’i ecsbloetio.

Cafodd hefyd ei gyhuddo o sawl trosedd yn ymwneud â meddu ar gyffuriau, meddu ar arf, ac o fwriadu i ddosbarthu sawl math o gyffur – cocên, heroin a chanabis.

Cafodd Harrison James Coe ei arestio ar Fawrth 12 ar gyrion Llanelli ar amheuaeth o feddu ar lafn, ac o feddu ar gyffuriau.

Mae’r dyn yn hanu o Wrekin Road, Sutton Coldfield, a bydd yn ymddangos gerbron Llys y Goron Abertawe, ar Ebrill 15.