Mae canolfan yr Egin – sy’n gartref i bencadlys S4C yng Nghaerfyrddin – yn “flaenoriaeth” i lywodraethau Cymru a San Steffan wrth iddyn nhw weithredu Bargen Ddinesig Bae Abertawe.

Cynllun i fuddsoddi £1.3bn mewn prosiectau yn Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin, Abertawe, a Chastell Nedd Port Talbot yw’r fargen ddinesig.

Ac ym mis Rhagfyr y llynedd, cyhoeddodd y ddwy lywodraeth y byddai adolygiad annibynnol yn cael ei gynnal er mwyn ymchwilio iddo.

Bellach mae’r adolygiad wedi’i gwblhau ac mae adolygiad wedi’i gyhoeddi heddiw â’i gasgliadau.

Mewn datganiad ar y cyd, mae’r llywodraethau wedi croesawu’r casgliadau yma ac wedi cynnig rhagflas o’u camau nesaf tros y cynllun.

At y cam cyflawni

“Ein blaenoriaeth gyntaf fydd cwblhau’r achosion busnes ar gyfer Ardal Ddigidol Glannau Abertawe a’r prosiect yn Yr Egin, yng Nghaerfyrddin, ar eu gwedd derfynol ar fyrder,” meddai’r datganiad.

“Cyn gynted ag y daw’r achosion busnes terfynol ger bron, mae’r ddwy lywodraeth wedi ymrwymo i hwyluso’r broses arfarnu fel bod modd i’r prosiectau hyn symud i’r cam cyflawni mor gyflym â phosibl.”