Mae heddiw yn “ddydd du” i Seland Newydd yn ôl Cymdeithas Gymreig yno.

Bellach mae 49 o bobol wedi marw, a 20 wedi cael eu hanafu, yn dilyn ymosodiadau arfog mewn dau fosg yn ninas Christchurch.

Mae Prif Weinidog y wlad, Jacinda Ardern, wedi galw’r achos yn “ymosodiad brawychol” ac mae disgwyl i ddyn ymddangos gerbron llys wedi’i gyhuddo o lofruddio.

Cafodd tri pherson – dau ddyn a dynes – eu rhoi yn y ddalfa yn dilyn y digwyddiad, ac mae’r awdurdodau wedi gorfod cael gwared ar ffrwydron a gafodd eu gosod yn y ddinas.

Er bod Cymdeithas Gymreig ‘Cymry Auckland’ yn gweithredu mewn dinas ar ben arall Seland Newydd, mae’r tristwch i’w deimlo ledled y wlad, medden nhw.

Cydymdeimlo

“Mae’r wlad i gyd yn teimlo’n drist iawn,” meddai llefarydd ar ran y gymdeithas wrth golwg360. “Does dim byd fel hyn wedi digwydd yn hanes Seland Newydd o’r blaen.

“Yn sgil hyn, mae Auckland, y mosgiau a gweddill Seland Newydd yn [wyliadwrus]. Mae’r [mosgiau] yn rhybuddio pobol i gadw draw.

“Cydymdeimladau mawr i’r teuluoedd yn Christchurch heno, yfory, a dros y diwrnodau i ddod. Bydd Mawrth 15 yn cael ei gofio’n ddydd du i Seland Newydd.”