Mae Warren Gatland wedi dweud wrth Eddie Jones i “ganolbwyntio ar y gêm yn erbyn yr Alban” wedi i hyfforddwr y Saeson ddweud bod y Cymry yn edrych yn flinedig.
Yfory fe fydd Cymru yn herio’r Gwyddelod a byddai buddugoliaeth yn sicrhau trydedd Camp Lawn dan hyfforddiant Warren Gatland.
Ond pe bai Cymru yn colli, a Lloegr yn maeddu’r Alban, mae yn bosib y gallai’r Saeson ennill y Bencampwriaeth.
Ac mae Eddie Jones wedi cychwyn y gemau seicolegol a cheisio cynyddu’r pwysau ar ysgwyddau’r Cymry.
Ddoe fe ddywedodd hyfforddwr y Saeson bod y Cymry “yn dechrau edrych braidd yn flinedig” a hynny wedi iddyn nhw “daclo mwy na neb arall yn y gystadleuaeth”.
Yn ymateb i sylwadau Eddie Jones, fe ddywedodd Warren Gatland:
“Pam ddiawl mae Eddie Jones yn siarad am ein gêm ni?
“Pe bawn i yn ei esgidiau ef, mi fyddwn yn canolbwyntio ar chwarae’r Alban…
“Os edrychwch chi ar yr ystadegau, mae Lloegr wedi gwneud peth coblyn yn fwy o daclo na ni yn y gystadleuaeth.
“Fy nghyngor i Eddie yw i ganolbwyntio ar y gêm yn erbyn yr Alban.”
Pe bai’r Cymry yn curo yfory, byddai Warren Gatland yn creu hanes – yr hyfforddwr cyntaf i ennill tair Camp Lawn yn hanes y Chwe Gwlad.