Mae ffordd yr A484 ym mhentref Cwmduad, Sir Gaerfyrddin, wedi ail-agor yn rhannol, a hynny bum mis ers i ddyn ifanc gael ei ladd mewn tirlithriad yno.

Bu farw Corey Thomas Sharpling, 21 ar y ffordd rhwng Castellnewydd Emlyn a Chaerfyrddin adeg Storm Callum ar Hydref 13.

Ers hynny, mae Cyngor Sir Gaerfyrddin wedi bod wrthi’n clirio ac adfer y ffordd, gan gynnwys codi lori a gafodd ei ysgubo i’r afon gan y tirlithriad.

Bydd bellach modd i gerbydau deithio ar hyd y ffordd sengl sydd wedi ei hail-agor, gyda’r traffig yn cael ei reoli drwy signalau.

Mae’r gwaith ar ochr arall y ffordd yn parhau, wrth i wal barapet gael ei ail-adeiladu.