Mae arweinydd Plaid Cymru dan y lach am ddefnyddio “iaith amharchus” wrth herio Prif Weinidog Cymru yn siambr y Cynulliad heddiw (dydd Mercher, Mawrth 13).

Fe ofynnodd Adam Price gwestiwn brys ynglŷn â pholisi Llywodraeth Cymru ar Brexit wedi i gytundeb Theresa May gael ei wrthod yn Nhŷ’r Cyffredin neithiwr (dydd Mawrth, Mawrth 12). Roedd am wybod pam y mae arweinydd y Blaid Lafur, Jeremy Corbyn, mor dawel ynghylch ail refferendwm Brexit mewn araith gerbron Aelodau Seneddol.

“Ar adegau fel hyn mae angen gwleidyddiaeth onest,” meddai Adam Price tua 1.35yp. “Mae angen i bobol ddweud a gwneud yr hyn maen nhw’n credu ynddo.

“Dw i’n meddwl ei bod hi’n eithaf clir erbyn hyn fod cefnogaeth Jeremy Corbyn i’r syniad o ‘Bleidlais y Bobol’ yn weithred o fachu cyfle a thwyll, ac os nad ydych chi’n cytuno â hynny, rydych chi naill ai’n gelwyddgi neu’n ffŵl.”

“Annerbyniol”

Wrth feirniadu Adam Price am ei sylwadau, mae Llywydd y Cynulliad, Elin Jones, yn dweud fod “sarhau personol yn annerbyniol” o fewn y Siambr.

“Mae hwn yn gwestiwn brys, yn fater difrifol ac mae galw enwau gwleidyddol ar yr adeg hon yn annerbyniol,” meddai Elin Jones.

Ymatebodd Mark Drakeford drwy alw’r sylwadau yn rhai “hynod amharchus” yn ystod “dyddiau difrifol”.

“Fe ddylai [Adam Price] wybod yn well,” meddai. “Dyw hi ddim o gymorth i’n gwlad iddo fe gyflwyno’r cwestiwn yn y modd a wnaeth.”