Mae Gareth Wyn Jones yn dweud bod ganddo bryder ynghylch figaniaeth yn troi’n “gwlt”, yn hytrach na “deiet neu ffordd o fyw”.

Yn ôl y ffermwr mynydd o Lanfairfechan, sydd wedi bod yn llafar ei farn ar y cyfryngau cymdeithasol yn ddiweddar yn erbyn yr ymgyrch ‘Veganuary’, a gafodd ei chynnal ym mis Ionawr, mae wedi dod i’r casgliad hwn ar ôl derbyn negeseuon “afiach” gan rai ymgyrchwyr.

“Dw i ddim yn trio bod yn dadleuol – dw i jyst yn trio deud wrthyn nhw ‘parchwch be ydan ni’n ei wneud, a pharchwch y ffordd rydan ni’n bwyta ac fe wnawn ni eich parchu chi’,” meddai Gareth Wyn Jones wrth golwg360.

“Ond dydy o ddim cweit yn gweithio gyda’r bobol yma. Mae rhai ohonyn nhw yn rili afiach, yn enwedig yr ochr militant ohonyn nhw.

“Fe ges i un tweet ddoe neu’r diwrnod cynt… yn deud bod gyrru anifeiliaid i gael eu lladd fatha beth oeddan nhw’n ei wneud yn Auschwitz. Mae hwnna’n afiach, ac yn rili, rili, troi fy mol i.”

Poenydio ffermwyr

Er bod Gareth Wyn Jones yn labelu nifer o’r ymgyrchwyr hyn yn “key board warriors”, ac na fyddai “90%” ohonyn nhw, meddai, yn barod i fynegi eu barn wyneb yn wyneb ag ef, mae’r ffermwr yn gwybod am rai achosion o brotestwyr yn poenydio ffermydd a lladd-dai.

“Maen nhw wedi bod yn atacio ffermydd a bod yn mynd at bobol sy’n mynd at ladd-dai a rhoi amsar calad iddyn nhw,” meddai.

“Dw i’n meddwl bod o’n amsar i’r llywodraeth neu’r heddlu roi stop arno fo.

“Dydy o ddim yn deg. Mae’r bobol yma yn gwneud joban sy’n hollol gyfreithlon ac mae pobol isho prynu’r cynnyrch, felly pam bod y lleiafrif yna yn mynd allan i roi amsar calad iddyn nhw?”

‘Angen addysgu’

Er mwyn atal pobol rhag cael eu “camarwain” gan ymgyrchwyr figanaidd, mae Gareth Wyn Jones yn credu bod gan bawb “ran i’w chwarae” wrth sicrhau bod dadleuon y diwydiant amaeth yn cael eu clywed.

“Dw i’n meddwl bod angen gwneud mwy betha positif,” meddai. “Nid sbïo ar bethau negyddol, ond dangos beth ydan ni’n ei wneud a bod yn fwy onast gyda phobol a deud ‘felma mae eich bwyd chi’n cael ei gynhyrchu.

“Dw i’n meddwl ei bod hi’n bwysig iawn bod y llywodraeth, yr undebau a ni fel diwydiant yn dysgu – a dw i’n meddwl dysgu – y to ifanc y ffeithiau i gyd, a mynd â nhw yn ôl er mwyn i ni ddeall lle mae eu bwyd nhw yn cael eu cynhyrchu ac i wneud y dewis eu hunain,” meddai wedyn.