Mae’r corff arholi, Cyd-Bwyllgor Addysg Cymru (CBAC), wedi cadarnhau bod ei brif weithredwr yn bwriadu camu o’r neilltu, a hynny lai na blwyddyn ers dechrau yn y swydd.

Fe ddaeth Roderic Gillespie, sy’n gyn-Gyfarwyddwr Asesu Cambridge International, i CBAC yng Nghaerdydd ddechrau Mehefin y llynedd.

Roedd yn olynu Gareth Pierce, a fu’n brif weithredwr ers 2004.

“Gallwn gadarnhau bod Roderic Gillespie, ar ôl cryn dipyn o feddwl, wedi gwneud y penderfyniad anodd i adael CBAC i ddilyn gyrfa yn nes at gartref,” meddai llefarydd ar ran CBAC.

“Mae trefniadau arweinyddiaeth interim yn cael eu cwblhau ar hyn o bryd, a gefnogir yn llawn gan Roderic.

“Ein prif amcan yw sicrhau bod arholiadau’r haf yn cael eu darparu’n ddiogel. Mae Bwrdd CBAC a’r Tîm Gweithredol yn hyderus bod gennym weithdrefnau a phrosesau cadarn ar waith i sicrhau bod hyn yn cael ei gyflawni.”