Mae un o gwsmeriaid Oxfam yn dweud ei fod yn wynebu “dilema” ar ôl i’w deulu gael eu sarhau am siarad Cymraeg mewn siop yn y Gelli Gandryll.

Roedd Eifion Williams, ei wraig a’u mab chwech oed yn siopa yno dros y penwythnos, a’i wraig sy’n hanu o America yn dweud “diolch yn fawr” yn Gymraeg wrth dderbyn ei newid.

Ond mae’n dweud y cawson nhw “awgrym” gan y dyn wrth y til i “beidio â siarad iaith estron yn fa’ma”.

“Trafodaeth yn Saesneg oedd hi ar y cyfan,” meddai wrth golwg360. “Ond ar ôl iddi gael ei newid, dywedodd hi ‘diolch yn fawr’, a hwnnw oedd y sbardun.

“Roedd y ddynes arall wrth y til, er clod iddi, yn teimlo embaras ac yn dweud wrtho fo na ddylsai siarad fel yna efo unrhyw un.

“Ond roedd gynno fo’r cymwysterau i gyfiawnhau’r sylw, medda fo, sef fod gynno fo syrnam o dras Gymreig!

“Swn i efo syrnam Sbaeneg fatha Garcia, fyswn i ddim yn meddwl fod gin i’r hawl i stopio pobol siarad Sbaeneg. Mae’r ddadl yn hurt!

“Dw i ddim yn gwybod dim am ei gefndir o, ond os ydi o wedi dod i’r canlyniad fod o ddim isio dysgu’r iaith, rhywbeth unigol iddo fo ydi hynny. Ond deud wrth bobol eraill…?!”

Ymateb Oxfam Cymru

Ar ôl i’r ffrae ddenu sylw ar wefan gymdeithasol Twitter, mae Rachel Cable, pennaeth Oxfam Cymru, wedi ymateb.

“Yr ydym yn pryderu ar ôl clywed adroddiadau bod aelod o dîm Oxfam yn siop Oxfam yn Y Gelli Gandryll wedi gwneud sylw annerbyniol am yr iaith Gymraeg.

“Hoffwn ni ymddiheuro am unrhyw ofid a achoswyd. Nid yw’r sylw honedig yn adlewyrchu gwerthoedd Oxfam ac rydym yn cymryd honiadau o’r math hwn o ddifrif. Rydym yn ymdrechu i sicrhau bod cynhwysiant ac amrywiaeth wrth wraidd ein hymagwedd lle bynnag yr ydym yn gweithio yn y byd, gan gynnwys yma yng Nghymru.

“Rydyn ni nawr yn edrych ar y mater hwn gyda’r brys mwyaf.”

“Sioc”

Er i’r ffrae arwain at ymateb gan Oxfam Cymru, mae’n dweud nad oedden nhw wedi gofyn am ymddiheuriad yn syth oherwydd eu “sioc”, ac nad oedden nhw am i’w mab ifanc glywed ffrae am y Gymraeg.

“Dydyn ni ddim isio i’r bychan glywed bod ei iaith o yn gallu denu’r fath ymateb,” meddai.

“Mae’n ddigon anodd ar y ffin beth bynnag, fel unrhyw ardal yng Nghymru, i fabwysiadu balchder yn eu hail iaith nhw heb orfod meddwl bo nhw’n pechu pobol ac yn creu’r math yma o ymateb.

“Felly wnaethon ni benderfynu peidio â herio yn y fan a’r lle.”

Problem gyffredinol yn y Gelli Gandryll?

Yn ôl Eifion Williams, mae’n dal yn awyddus i gefnogi “gwerthoedd elusennol Oxfam” ond mae’n dweud na fydd yn dychwelyd i’r siop yn y Gelli Gandryll eto.

“Yn sicr, tasa busnes preifat wedi gwneud hyn, fyswn i ddim yn mynd yn ôl. Fyswn i ddim yn mynd yn ôl i’r siop unigol yma, beth bynnag, ond mi fydda i’n cefnogi canghennau eraill.”

A’i wraig yn hanu o America, mae’n dweud bod y teulu’n hoff o ymweld â gwledydd eraill a dweud ‘Diolch yn fawr’ mewn siopau.

Ond mae’n dweud hefyd nad dyma’r tro cyntaf iddyn nhw gael eu sarhau ger y ffin rhwng Cymru a Lloegr.

“Roedden ni’n cerdded yn ardal Moccas Hill ger y ffin, a’r cwpwl yma’n mynd â’u ci am dro.

“You speak Welsh, then?” meddai’r dyn. “People in north Wales with hair on their hands speak that!”

Mae’n dweud bod gwraig y dyn “wedi dweud y drefn wrtho”.

“Wnaeth fy ngwraig i hefyd ddweud wrtho fo, ‘It’s a good job my son didn’t hear you say that about his language.’

“Ei ymateb o wedyn oedd, ‘He’s just going to have to toughen up in life!’”

Profiad positif

Er y profiadau negyddol hynny, mae’n dweud bod agwedd ddigon cadarnhaol tuag at y Gymraeg yn y Gelli Gandryll ar y cyfan.

Mae’n un o griw o Gymry Cymraeg sy’n cwrdd â dysgwyr a phobol ddi-Gymraeg mewn llyfrgell leol.

“Mae tri neu bedwar yn rhugl, ambell ddysgwr, a rhai cwbl ddi-Gymraeg yn mynd i glywed y Gymraeg fel cam cyntaf,” meddai.

“Daeth cwpwl aton ni’n ddiweddar i ddweud pa mor dda oedd clywed y Gymraeg yn y Gelli Gandryll – roedd o’n dod o Fae Colwyn a’i wraig o Sir Henffordd.

“Roedd gynnon nhw agwedd gadarnhaol ac isio ymaelodi â’r grŵp. Lleiafrif sydd â’r agwedd oedd gan y dyn yn y siop.”

‘Gallai busnesau Cymru ddysgu oddi wrth Wlad y Basg’

Ac yntau’n economegydd, mae Eifion Williams o’r farn y gallai llawer o fusnesau yng Nghymru ddysgu oddi wrth nifer o fentrau sydd ar y gweill yng Ngwlad y Basg.

“O’n i yn Bayonne yn ne Ffrainc yn yr haf, sef gogledd Gwlad y Basg. Mae gynnon nhw arian lleol, sef yr Eusko.

“Roedd siopau lleol yn ei defnyddio ymysg ei gilydd, ac os oes gynnon nhw rai sbâr, roedden nhw’n gallu eu defnyddio ar wersi Basgeg.

“O’n i’n siarad â siop oedd yn gwerthu nwyddau cychod gwenyn, ac roedden nhw’n dweud bo nhw wedi bod ar y cyrsiau ac efo awydd i fynd ar y cyrsiau gan fod ganddyn nhw’r arian lleol i’w wario, a gwersi Basgeg ar gael iddyn nhw.

“O ganlyniad, roedden nhw’n dysgu sut i groesawu pobol a rhoi cyfarwyddiadau.

“Roedd y busnesau wnes i siarad efo nhw’n dweud eu bod nhw’n gweld y gwersi fel rhywbeth oedd yn ychwanegu at sut maen nhw’n gweithredu fel busnesau ac yn rhoi arf ychwanegol i estyn llaw allan i bobol sydd isio defnyddio’r Fasgeg, a phobol sydd â hyn a hyn o eiriau hefyd.

“Ro’n i’n meddwl fod o’n gynllun reit greadigol.”