Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi eu bod yn derbyn £4m ychwanegol i helpu busnesau i baratoi ar gyfer Brexit.

Daw’r cyhoeddiad ar drothwy ymweliad Jeremy Miles, Gweinidog Brexit Cymru, â Strasbwrg i gyflwyno safbwynt y Llywodraeth ar y trafodaethau. Fe fydd yn amlinellu’r berthynas y byddai Cymru’n hoffi ei gweld gyda’r Undeb Ewropeaidd ar ôl Brexit.

Fe fydd pleidlais arall yn San Steffan yfory (dydd Mawrth, Mawrth 12) ar gynllun Brexit Theresa May, gyda’r posibilrwydd o bleidleisiau pellach ar Brexit heb gytundeb a gohirio Erthygl 50.

“Llai na thair wythnos sydd i fynd tan y diwrnod pan ydyn ni i fod i ymadael â’r Undeb Ewropeaidd, a dydyn ni ddim callach ynglŷn â sut mae hynny’n mynd i ddigwydd,” meddai Jeremy Miles.

“Mae’n rhaid i’r ansicrwydd hwn ddod i ben.

“Mae’n hen bryd i Brif Weinidog a Senedd y DU ddangos eu bod wedi gwrando ar rybuddion Seneddau Cymru a’r Alban.

“Fe ddylen nhw ddiystyru ymadael heb gytundeb a gofyn am estyniad i Erthygl 50 ar unwaith.”

Blaenoriaethau Cymru ar gyfer yr ymweliad

Yn ôl Jeremy Miles, mae Llywodraeth Cymru am gael “gwell dealltwriaeth o farn cydweithwyr ar draws yr Undeb Ewropeaidd”.

Mae hefyd am esbonio barn Llywodraeth Cymru ar “sut y gellid sicrhau mwyafrif cynaliadwy yn Senedd y DU ar gyfer math o Brexit sy’n adlewyrchu blaenoriaethau Cymru”, meddai.

Fe fydd e hefyd yn galw ar Senedd Ewrop i “osgoi sefyllfa drychinebus o ymadael heb gytundeb”.

Mae’n cyhuddo Theresa May o “gam-fanteisio ar ewyllys da ein partneriaid drwy geisio ail-negodi’r cytundeb yr oedd hi eisoes wedi cytuno arno”.

‘Cwlwm rhyngom ers blynyddoedd lawer’

Fe fydd e hefyd yn pwysleisio’r “cwlwm” rhwng Cymru a’r Undeb Ewropeaidd “ers blynyddoedd lawer”, ac yn galw am geisio cynnal y berthynas honno er gwaethaf Brexit.

Yn wir, mae pedwar prosiect yn elwa o dderbyn cyllid Ewropeaidd allan o’r Gronfa Bontio gwerth £50m.

Mae £180,000 wedi’i neilltuo ar gyfer Cymru fel rhan o Raglen Hyfforddiant Epidemioleg Maes y DU.

Mae £500,000 yn cael ei neilltuo ar gyfer Statws Preswylwyr Sefydlog a Chyngor ar Fewnfudo.

Mae Fforymau Cydnerthedd lleol yn derbyn £500,000 ar gyfer argyfyngau sifil posib fel rhan o Operation Yellowhammer. Byddai parhau i dderbyn yr arian yn golygu y bydd modd penodi mwy o staff.

Ac mae prosiect i feithrin cadernid cymunedau amaethyddol Cymru yn derbyn £280,000.