Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cymryd rhan mewn arbrawf i helpu mwy o famau i eni plant yn y cartref.

Mae elusen Baby Lifeline yn cynnig pecynnau i fydwragedd yn Sir Gaerfyrddin, Sir Benfro a Cheredigion a fydd yn eu helpu i gefnogi mwy o ferched.

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yw’r unig fwrdd iechyd yng Nghymru sy’n cymryd rhan yn yr arbrawf.

“Cawsom ein dewis o ganlyniad i’r ardal fawr o dir yr ydym yn ei gwasanaethu ac oherwydd ein cyfradd genedigaethau yn y cartref,” meddai Lynn Hurley, Bydwraig Arweiniol ar gyfer Unedau Cymunedol ac Unedau dan Arweiniad Bydwragedd ar gyfer Hywel Dda.

“Mae ein bydwragedd cymunedol yn edrych ymlaen at gael bagiau safonol newydd, er mwyn hybu gwasanaeth diogel o ansawdd uchel ar gyfer mamau a bydwragedd, fel ei gilydd.

“Rydw i a’m cydweithwraig ym maes bydwreigiaeth, Rebecca Johnson, wedi gweithio’n galed i sicrhau bod y safon hon yn cael ei chyflawni trwy ein gwaith gyda Baby Lifeline.

“Ar ran y bwrdd iechyd, hoffwn ddiolch i Baby Lifeline am ein galluogi i gymryd rhan yn y treial hwn. Y gobaith yw y bydd y treial yn cael ei gyflwyno ar hyd a lled Cymru yn y pen draw.”
Pecynnau
Mae elusen Baby Lifeline yn cynnig hyfforddiant i fydwragedd a staff eraill sy’n helpu i eni plant y tu allan i’r ysbyty.
Mae’r elusen wedi hyfforddi dros 1,000 o fydwragedd yng ngwledydd Prydain.
Ond roedd diffyg cysondeb yn y cyfarpar roedd y bydwragedd yn ei ddefnyddio ar ymweliadau â’r cartref.
Mae pecyn wedi cael ei greu fel bod modd cludo cyfarpar yn haws, a dod o hyd i’r cyfarpar cywir mewn bagiau drwy ddefnyddio cod lliwiau.
Mae’r pecynnau’n cynnwys popeth sydd ei angen, yn ogystal â chyfarpar y mae modd ei ddefnyddio mewn argyfwng prin.
Bydd y pecynnau’n cael eu treialu’n ehangach o fis Ebrill ymlaen.