Mae cannoedd o gartrefi heb drydan a nifer o ffyrdd ynghau yng Nghymru oherwydd gwyntoedd cryfion ac eira.

Mae un lôn ar yr A55 ynghau yn Sir y Fflint oherwydd yr eira, tra bod amodau gyrru gwael yn ardal Wrecsam.

Yn y de, mae nifer o adeiladau yn ardal Pontardawe wedi colli eu toeon.

Ac fe fu’n rhaid cau’r A465, Ffordd Blaenau’r Cymoedd, rhwng Hirwaun a Chastell-nedd oherwydd llifogydd. Ond mae honno wedi’i hagor unwaith eto erbyn hyn.

Mae ardaloedd Ceredigion, Caerdydd a Sir Fynwyr wedi’u heffeithio gan wyntoedd cryfion hefyd.

Yn y gorllewin, mae pont Cleddau ynghau i gerbydau uchel.

Mae’r traffig yn symud yn arafach nag arfer ar Bont Hafren yr M48, lle mae terfyn cyflymdra o 40 milltir yr awr.