Tydi 47% o bobol Cymru ddim yn gwneud digon o ymarfer corff ac mae 57% yn treulio llai na hanner awr bob dydd yn yr awyr agored.

Dyma ganfyddiadau holiadur o 2,002 o bobol a gomisiynwyd gan GO Outdoors, sy’n rhestru’r rhesymau dros y diffyg Fitamin D yn ein cyrff.

Mae’r diffyg Fitamin D yn pryderu 31%, ac mae 47% wedi profi problemau oherwydd nad ydyn nhw  yn cael digon ohono.

Mae diffyg Fitamin D yn gallu achosi iselder, blinder a phoen.

Mae 51% yn poeni eu nad ydyn nhw yn treulio ddigon o amser tu allan hefyd.

Dywedodd 66% mai’r prif reswm dros aros o dan do yw’r tywydd, gyda salwch yn ail ar 32%, a blinder yn llethu 23%.

“Mae’n bwysig i ni gael golau dydd ac i gael ymarfer corff yn ein diwrnod pan allwn ni,” meddai’r Doctor Chris Steele, arbenigwr ar raglen This Moring ar ITV.

“Gall diffyg fitamin D eich rhoi mewn mwy o berygl o ddatblygu cyflyrau fel diabetes, clefydau’r galon a rhai canserau.”