Mae UKIP wedi “dilyn y llwybr anghywir” ac yn wrthwynebus tuag at Islam, yn ôl cyn-aelod blaenllaw o’r blaid.

Mae Nathan Gill yn cynrychioli Cymru yn Senedd Ewrop, a bellach yn aelod o Blaid Brexit – plaid a gafodd ei sefydlu gan gyn-aelodau eraill o UKIP.

Cefnodd ar ei blaid wreiddiol ym mis Rhagfyr y llynedd, gan eu cyhuddo o fod wedi tynnu eu sylw oddi ar Brexit.

Wrth esbonio’i resymau dros adael UKIP mae yn cyfeirio at eu perfformiad mewn arolygon barn – bydden nhw’n ennill 10% o’r bleidlais mewn etholiad Ewropeaidd, yn ôl Politico.

“Mae sefydlydd UKIP, Nigel [Farage],  finnau a bron a bod pob ASE arall wedi gadael UKIP oherwydd dylai bod UKIP yn denu 20% o’r bleidlais yn yr arolygon barn,” meddai Nathan Gill wrth golwg360.

“Dydyn nhw ddim yn gwneud hynny, oherwydd maen nhw wedi dilyn y llwybr anghywir. Maen nhw wedi mynd ar hyd llwybr gwrth-Islam.

“Ac maen nhw wedi cydweithio gyda Tommy Robinson [ymgyrchydd asgell dde eithafol], a chymeriadau amhleserus. Mae’r arolygon barn yn dystiolaeth o amhoblogrwydd hynny.

“Ar hyn o bryd, dylai bod y blaid sy’n sefyll dros Brexit yn ennyn cefnogaeth o leiaf 20%. Ond dydyn nhw ddim.”

Car teulu

Mae Nathan Gill yn cynnig rhagor o feirniadaeth ac yn cymharu UKIP â char teulu sy’n gorfod mynd i’r iard sgrap.

“Doedd e’ ddim yn gweithio,” meddai. “Doedd dim modd cael y blaid i wneud yr hyn yr oedd angen iddo wneud.

“Roedd sawl peth yn cyfrannu at hynny: strwythur y blaid, yr NEC [Pwyllgor Gweithredu Cenedlaethol], aelodau a ymunodd  am y rhesymau anghywir.”

Ymateb UKIP

“Mater o farn yw dweud ein bod yn ‘dilyn y llwybr anghywir’, a rhydd i bawb ei farn,” meddai llefarydd ar ran UKIP.

“Ond dw i ddim yn siŵr pam bod Nathan Gill yn meddwl ein bod ni ‘ddim yn gweithio’. Dw i ddim hyd yn oed yn siŵr beth mae’n trio ei ddweud.

“Ym mha ffordd dydyn ni ddim yn gweithio?”

Gallwch ddarllen rhagor am Nathan Gill a Brexit yn rhifyn diweddaraf Golwg.