Mewn cyfarfod llawn o Gyngor Gwynedd ddoe, fe wnaeth y cynghorwyr bleidleisio yn erbyn  torri arian y Canolfannau Iaith.

Bwriad y Cabinet sy’n rhedeg Cyngor Gwynedd yw torri £96,000 o gyllideb y canolfannau o fis Medi ymlaen – maen nhw yn dweud eu bod  yn gorfod torri oherwydd eu bod yn derbyn £61,000 yn llai at gostau rhedeg y canolfannau gan Lywodraeth Cymru, ac yn gorfod ymdopi gyda chynnydd mewn costau pensiwn.

Mae’r canolfannau iaith yn helpu plant sy’n dod o du allan i’r sir,  gael eu trochi yn yr iaith cyn dychwelyd i’w hysgolion lleol i dderbyn addysg Gymraeg.

Roedd ymgyrchwyr iaith yn protestio y tu allan i swyddfa’r Cyngor yng Nghaernarfon cyn y cyfarfod ddoe, gan ddweud y byddai’r toriadau’n mynd yn groes i bolisi iaith Gwynedd.

“Rydyn ni’n gynyddol obeithiol y gwnaiff cabinet y cyngor newid ei feddwl cyn gwneud penderfyniad terfynol fis nesaf,” meddai Mabli Siriol, Cadeirydd Grŵp Addysg Cymdeithas yr Iaith:

“Mae’n glir nad oes cefnogaeth i’r toriadau yn dilyn y pleidleisiau heddiw.

“Mae’r canolfannau yn newid bywydau pobl ac yn cael effaith bositif eithriadol ar yr iaith, a hynny yn yr hirdymor.

“Mae yna bobl sydd wedi dysgu’r iaith yn y canolfannau yma ac aros yn yr ardal fel oedolion sy’n siaradwyr hyderus sy’n trosglwyddo’r iaith i’r genhedlaeth nesaf.

“Y canolfannau yma ydy un o’r prif lwyddiannau sydd wedi bod o ran cynnwys hwyrddyfodiaid – gan gadw ysgolion yn Gymraeg a rhoi chwarae teg a mynediad llawn at fywyd y cymunedau i’r bobl ifanc sy’n symud i’r ardal.”

“Buddugoliaeth”

“Mae hyn yn fuddugoliaeth i’r Canolfannau Iaith,” meddai Cynghorydd Tremadog, Alwyn Griffiths, wnaeth gyflwyno’r cynnig yn gwrthod bwriad y Cabinet yn y cyfarfod ddoe.

“Mae yna 7,000 o blant wedi dysgu Cymraeg yn y canolfannau , sy’n 10% o holl siaradwyr yr iaith yng Ngwynedd.

“Nid yn unig mae [y canolfannau] yn cadw’r iaith yn fyw, ond maen nhw’n gwarchod ysgolion, ac mae pobol yn dod yma o’r tu allan ac yn cyrraedd yr ysgol yn gwybod Cymraeg.”

Mae ymgyrchwyr Cylch yr Iaith yn croesawu’r bleidlais hefyd gan ddatgan bod y neges wedi ei rhoi “yn glir gan y cyngor llawn i’r Cabinet i roi heibio’r bwriad na fydd y gwasanaeth yn cael ei israddio.”

Ymateb Cyngor Gwynedd

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd: “Fel Cyngor, rydym wedi ymrwymo i gefnogi pob plentyn sy’n symud i fyw i Wynedd er mwyn gallu dysgu Cymraeg fel y gallant elwa yn llawn o fod yn ddwyieithog a gallu gwneud y mwyaf o fyw mewn cymunedau Cymraeg eu hiaith.

“Trwy waith caled athrawon, cymorthyddion, ysgolion a rhwydwaith blaengar o ganolfannau iaith, mae Cyngor Gwynedd wedi arwain y ffordd yn y maes yma ac rydym wedi ymrwymo yn llwyr i wneud hynny yn y dyfodol.

“Ond, mae degawd a rhagor o doriadau ariannol anferthol ar draws holl gyllidebau’r Cyngor yn golygu nad ydym bellach mewn sefyllfa i ddod o hyd i arian ychwanegol ar gyfer prosiectau penodol pan mae grantiau gan Lywodraeth Cymru yn gostwng.

“Am flwyddyn ysgol 2018/19, mae Gwynedd wedi gorfod dygymod gyda gostyngiad o £61,000 yn y grant a dderbynnir gan Lywodraeth Cymru tuag at y gost o gynnal ein canolfannau iaith. Pan mae cynnydd mewn costau cyfraniadau cyflogau a phensiynau yr athrawon sy’n gweithio yn ein canolfannau iaith yn cael ei ystyried hefyd, mae’r diffyg ariannol yn codi i £96,000 ar gyfer blwyddyn ysgol 2019/20.

“Mae’r ffaith ein bod symud yn syth i wneud iawn am y bwlch ariannol yma ar gyfer y cyfnod hyd at 31 Awst 2019 yn tanlinellu ein hymrwymiad i’r iaith.

“Ond mae’r sefyllfa ariannol hynod anodd yr ydym ynddi yn golygu nad ydym yn gallu fforddio parhau i wneud iawn am ostyngiadau mewn grantiau am gyfnod amhenodol. O ganlyniad, mae’r Adran Addysg yn ymgynghori ar hyn o bryd gyda staff a’r undebau ar gynigion i ail-strwythuro canolfannau iaith y sir fel y gallant barhau i ddarparu’r gefnogaeth gorau bosib gyda’r adnoddau a fydd ar gael yn y dyfodol.

“Gan fod y broses ymgynghori mewnol yn bwrw ymlaen, does dim penderfyniad wedi ei gymryd am y ffordd ymlaen. Bydd yr holl sylwadau a dderbynnir fel rhan o’r broses yma yn cael eu hystyried cyn i benderfyniad gael ei gymryd gan Gabinet y Cyngor ym mis Ebrill.”