Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi heddiw (Dydd Gwener, Mawrth 8) y bydd £2m o gyllid yn cael ei roi i wella bywydau pobol ag anableddau dysgu.

Bydd y cyllid yn cael ei roi yn benodol at wella darpariaeth gwasanaethau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG)  i’r bobol hyn, meddai’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Vaughan Gething.

O fewn y maes yma mae gwasanaethau tai, iechyd, addysg, trafnidiaeth a gofal cymdeithasol.

 Ffyniant i Bawb

“Yn ein strategaeth yn rhaglen ‘Ffyniant i Bawb’ rydym wedi ymrwymo i wella iechyd a lles cyffredinol pob unigolyn yng Nghymru,” meddai Vaughan Gething.

“Bydd y buddsoddiad newydd hwn yn cefnogi gwelliannau mewn gwasanaethau iechyd i bobl ag anabledd dysgu i leihau anghydraddoldebau iechyd ac i helpu i wella iechyd ac ansawdd bywyd pobl.”

 Bydd y £2m yn cael ei ddefnyddio i:

–     Leihau’r defnydd diangen o feddyginiaethau gan weithio ar ddatrysiadau newydd

–     Gwella ansawdd apwyntiadau blynyddol gan ddoctoriaid teulu.

–     Galluogi pobol ag anableddau dysgu i gael mynediad at wasanaethau prif ffrwd mewn ysbytai.

–     Sicrhau fod gan bobol sydd ag anghenion anodd fynediad i wasanaethau arbenigol.

–     Creu fframwaith nyrsio arbenigol mewn ysgolion.