Mae loceri newydd sbon yn cael eu darparu ar gyfer pobol ddigartref yn Aberystwyth.

Mae elusen The Wallich yn gobeithio y bydd y rhain yn galluogi’r rheiny sy’n byw ar y stryd i gadw eu heiddo yn ddiogel – a bod hynny’n caniatau iddyn nhw ganolbwyntio ar dderbyn y gefnogaeth sydd ei hangen arnyn nhw.

“Mae rhywun sy’n cysgu ar y stryd yn gorfod cadw ei holl eiddo gyda nhw, ac fe allan nhw boeni am rheiny’n cael eu dwyn pan maen nhw’n cysgu,” meddai Rheolwr Prosiectau Ceredigion i The Wallich, Anthony Vaughan.

“Mae cario eiddo o gwmpas yn gallu bod yn rhwystr yn ystod y dydd, yn enwedig pan mae unigolyn angen mynd i nifer o apwyntiadau gwahanol.

“Mi fydd yna fynediad i’r loceri 24 awr y dydd, a’r gobaith yw y bydd yn cael effaith fawr a chadarnhaol ar rywun sy’n cysgu ar y stryd.”

Fe gafodd y chwech locer eu prynu gan Gyngor Sir Ceredigion i gynyddu’r ddarpariaeth i’r digartref yn yr ardal.