Fe fydd protest y tu allan i swyddfeydd Cyngor Gwynedd heddiw (dydd Iau, Mawrth 7)  yn erbyn y penderfyniad i gau canolfannau trochi iaith y sir.

Mae’r canolfannau yn helpu plant sy’n dod i’r sir o’r tu allan i gael eu trochi yn y Gymraeg yn barod ar gyfer derbyn eu haddysg yn yr iaith.

Bwriad y cyngor yw torri £96,000 o gyllideb y canolfannau o fis Medi ymlaen.

‘Israddio darpariaeth’

Ond mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn galw ar y cyngor i ail-feddwl, gan ddweud y byddai’r toriadau’n mynd yn groes i’w polisi iaith.

“Maen nhw’n gwneud cyfraniad hollbwysig o ran creu siaradwyr Cymraeg hyderus tuag at y nod cenedlaethol o gyrraedd miliwn o siaradwyr,” meddai Menna Machreth o’r mudiad.

“Yn ymarferol, byddai lleihau darpariaeth yn y canolfannau yma yn tanseilio polisi iaith ysgolion Gwynedd a’r Siarter Ysgolion.

“Os na fydd modd sicrhau bod hwyrddyfodiaid yn siarad Cymraeg cyn iddyn nhw gyrraedd yr ysgolion lleol, mi fydd profiad addysgol y plant yn diodde’ a bydd baich annheg ac anghynaliadwy yn cael ei osod ar athrawon.

“Rydyn ni’n annog siroedd eraill i efelychu llwyddiant y canolfannau yma; y peth olaf rydyn ni eisiau ei weld yw Gwynedd yn israddio’u darpariaeth nhw.”