Mae 20 o grantiau o hyd at £750 wedi cael eu dyfarnu i fudiadau ledled Cymru yn rhan o Ras yr Iaith.

Mae’n rhan o’r ymdrechion ar hyd a lled y wlad i godi ymwybyddiaeth o’r Gymraeg yn y gymuned.

Cafodd trydedd Ras yr Iaith ei chynnal fis Gorffennaf y llynedd, gan godi dros £7,500 o elw.

Y rhai sy’n derbyn y grantiau eleni yw:

  • Grŵp Llandrillo Menai
  • Ysgol Bro Gwydir
  • Ymgyrch Llanrwst
  • Bocsŵn Môn
  • Cyfeillion Ysgol Glantwymyn
  • Y Selar
  • Pwyllgor Apêl Aberystwyth Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion 2020
  • Merched y Wawr Aberystwyth
  • Canolfan Deulu Llanbedr Pont Steffan
  • Menter Iaith Gorllewin Sir Gâr
  • Ysgol Caer Elen
  • Cylch Meithrin Caer Elen
  • Gŵyl Gymraeg Llanelli
  • Ysgol Dyffryn Aman
  • Dawnswyr Penrhyd
  • Ysgol Gyfun Gymunedol Gellionnen
  • Tŷ’r Gwrhyd
  • Adran Chwaraeon Urdd Gobaith Cymru Abertawe
  • Cylch Meithrin y Ferch o’r Sgêr
  • Eisteddfod y Cymoedd
  • meddwl.org

Daw’r cyhoeddiad ar ôl i Ras yr Iaith ymweld â 15 o drefi a phentrefi gyda Baton yr Iaith yn uno miloedd o redwyr drwy Gymru gyfan. Rhoddodd busnesau, sefydliadau, ysgolion ac unigolion £50 yr un i noddi cymal o’r ras, gyda’r arian yn cael ei rannu ar ffurf grantiau.

Mae disgwyl i Ras yr Iaith gael ei chynnal unwaith eto yn 2020, gyda’r pwyslais ar wirfoddoli er lles y Gymraeg.