Mae mudiad Dyfodol i’r Iaith yn cyhuddo prifysgolion Bangor a Chaerdydd o “ddibrisio” y Gymraeg.

Bwriad Prifysgol Caerdydd yw uno Ysgol y Gymraeg gydag adrannau ieithoedd eraill, ac mae cynlluniau ar y gweill ym Mhrifysgol Bangor i dorri swyddi ar lefel Athro.

Dywed y mudiad eu bod yn ceisio dwyn perswâd ar is-gangellorion y ddwy brifysgol i wyrdroi eu penderfyniadau er lles y Gymraeg fel pwnc ac fel cyfrwng cenedlaethol.

“Mae’r cynigion byrdymor hyn yn anfon neges hirdymor niweidiol mewn perthynas ag ymrwymiad hanesyddol y sefydliadau i’r iaith Gymraeg,” meddai Eifion Lloyd Jones o’r mudiad.

“Rhaid gwarchod annibyniaeth ac arbenigrwydd y Gymraeg fel pwnc academaidd ym Mhrifysgolion y genedl, gan ystyried yr un pryd arwyddocâd y fath fygythiadau i statws a gwerth y Gymraeg ar lefel ehangach – fel cyfrwng cenedlaethol creadigol a chymunedol.”

“Rydym yn pwyso ar y sefydliadau allweddol hyn i gydnabod ac ymgymryd â’u rôl i gyfrannu at ffyniant y Gymraeg.”