Mae carcharorion yng ngharchar Berwyn yn Wrecsam yn helpu i ddatblygu technoleg sy’n adnabod lleisiau sy’n siarad Cymraeg.

Mae’n rhan o brosiect ehangach ‘Common Voice’ Sefydliad Mozilla, ac mae Menter Iaith Fflint a Wrecsam, Mozilla, Uned Technolegau Iaith Prifysgol Bangor a Meddal.com wedi bod yn gyfrifol am elfen Gymraeg y prosiect.

Fel rhan o’r prosiect, mae lleisiau unigol yn cael eu casglu yn y Gymraeg er mwyn helpu peiriannu i ddysgu sut mae pobol yn siarad ac i ymateb i orchmynion llafar.

“Fel siaradwr Cymraeg, rwy’n teimlo’n falch iawn fy mod i wedi gallu cyfrannu at rywbeth a fydd yn hyrwyddo’r iaith ac yn ei diogelu yn y dyfodol, er fy mod yn y carchar,” meddai Nigel, un o’r carcharorion sydd wedi cyfrannu ei lais at y prosiect.

“Rwyf wir yn gwerthfawrogi’r ffaith fod y staff wedi rhoi’r cyfle i ni gymryd rhan mewn prosiect fel hyn.”

‘Cymuned Cymry Cymraeg gadarn’

Mae Danny Khan, llywodraethwr Carchar Berwyn, yn dweud bod gan y carchar “gymuned Cymry Cymraeg gadarn” a bod y ffaith fod y carcharorion yn gallu cymryd rhan yn y prosiect yn “wych”.

“Mae llawer o weithgareddau iaith Gymraeg yn cael eu cynnal ar y cyd gyda Menter Iaith Fflint a Wrecsam trwy gydol y flwyddyn,” meddai.

“Pan awgrymodd Menter Iaith Fflint a Wrecsam y dylen ni gymryd rhan, wnaethon ni gyflwyno’r syniad i’r carcharorion ac rwy’n falch iawn bod 12 ohonynt wedi gwirfoddoli, ynghyd â sawl aelod o staff.

“Mae llawer o weithgareddau da yn mynd ymlaen yn y carchar i helpu’r gymuned ehangach ac i atal y dynion rhag aildroseddu, ac nid yw’r cyhoedd yn gweld llawer o’r gweithgareddau hyn.

“Mae’r prosiect hwn yn enghraifft dda o sut all pobol sydd yn y carchar wneud cyfraniad gwerthchweil er gwaethaf eu dedfryd.

“Mae’r holl beth wedi bod yn brofiad cadarnhaol iawn i’r carcharorion a’r staff.”

‘Agwedd mor gadarnhaol’

“Rydym yn falch iawn fod CEM Berwyn wedi gallu cyfrannu at y gwaith hwn,” meddai Delyth Prys o Brifysgol Bangor.

“Diolch yn fawr i’r dynion am gyfrannu eu lleisiau, a hynny gydag agwedd mor gadarnhaol.

“Byddwn yn annog unrhyw siaradwyr Cymraeg yn y gymuned i ystyried cyfrannu eu lleisiau i’r prosiect hefyd.”