Mae Maes Awyr Caerdydd yn cyflymu ei system ddiogelwch heddiw (dydd Mercher, Mawrth 6) wrth i system wirio e-basbort newydd gael ei agor yno.

Llywodraeth Cymru sydd wedi talu am y  gatiau newydd, sy’n defnyddio’r  dechnoleg ddiweddaraf er mwyn galluogi teithwyr sydd â phasbortau biometrig i osgoi ciwio i gael eu harchwilio.

Pum giât newydd fydd yn agor heddiw, a hynny am gost o £1m.

60% yn fwy o deithwyr

Mae’r gatiau newydd yn ganolog i gynlluniau paratoi ar gyfer Brexit heb gytundeb hefyd.

Y bwriad ydi sicrhau bod cyn lleied â phosibl o giwio i ddod i mewn i’r wlad.

Ers 2013 mae’r maes awyr wedi gweld cwmnïau fel KLM, TUI, a Ryanair yn cynnig llwybrau teithio newydd gan ychwanegu at ei rhwydwaith.