Mae’r Athro Paul Boyle wedi ei benodi’n is-ganghellor newydd Prifysgol Abertawe.

Fe fydd cyn-fyfyriwr y brifysgol yn olynu’r Athro Richard B Davies, a gafodd ei wahardd o’i swydd fis Tachwedd y llynedd yn sgil ymchwiliad mewnol.

Y gred yw bod yr ymchwiliad hwnnw, a arweiniodd at wahardd pedwar aelod arall o staff, yn ymwneud â phryderon ynghylch cynlluniau gwerth £200m ar gyfer datblygu ‘Pentref Llesiant’ yn Llanelli.

Cafodd penodiad yr Athro Paul Boyle, sydd ar hyn o bryd yn Is-ganghellor ac yn Llywydd ar Brifysgol Caerlŷr, ei gadarnhau mewn cyfarfod arbennig o Gyngor Prifysgol Abertawe heddiw (dydd Mawrth, Mawrth 5).

Yn ôl llefarydd ar ran y brifysgol, roedden nhw wedi “dilyn proses recriwtio fyd-eang a ddechreuodd wedi i’r Is-ganghellor, yr Athro Richard B Davies, gyhoeddi mis Medi diwethaf o’i fwriad i ymddeol ar ddiwedd y flwyddyn academaidd 2018/19.”

“Ar ben fy nigon”

“Rwyf ar ben fy nigon i fod yn ymuno â Phrifysgol Abertawe wrth iddi nesáu tuag at ei chanmlwyddiant yn 2020,” meddai’r Athro Paul Boyle.

“Mae cymaint wedi ei gyflawni yn Abertawe dros y blynyddoedd diwethaf, gan gynnwys y campws newydd, twf yn niferoedd myfyrwyr, ac esgyn safleoedd mewn nifer o dablau cynghrair pwysig.

“Rwy’n edrych ymlaen at gydweithio â staff a myfyrwyr i adeiladu ar y llwyddiant hwn.”