Bydd y Cynulliad ym Mae Caerdydd a Senedd yr Alban yn pleidleisio ar yr un cynnig heddiw (dydd Mawrth, Mawrth 5), sy’n datgan gwrthwynebiad i gytundeb Brexit Theresa May.

Mae’r cynnig ei hun yn galw ar Lywodraeth Prydain i gymryd camau “ar unwaith” i atal sefyllfa ‘dim cytundeb’ ac i ymestyn Erthygl 50 fel bod modd trafod cytundeb newydd, sy’n wahanol i un y Prif Weinidog.

Yn ôl Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, mae’r drafodaeth a’r bleidlais heddiw yn “gam hanesyddol”, ac mae’n gobeithio y bydd yn anfon “neges glir ac unedig” i Lywodraeth Prydain.

“Mae goblygiadau dim cytundeb yn digwydd nawr, gyda buddsoddwyr fel Honda a Nissan yn tynnu allan o wledydd Prydain neu’n canslo cynlluniau buddsoddi,” meddai Mark Drakeford.

“Bydd yr effeithiau’n gwaethygu bob dydd tra mae’r ansicrwydd yn cael parhau.

“Dim ond 24 diwrnod sydd i fynd nes byddwn ni’n dod allan o’r Undeb Ewropeaidd. Gall, ac mae’n rhaid, i’r Prif Weinidog weithredu i ddileu’r risg yma.

“Rydw i’n gobeithio y bydd y drafodaeth ar y cyd heddiw, a’r pleidleisio, yn rhoi rhagor o bwysau ar y Prif Weinidog i wneud y peth iawn.”