Mae Heddlu Dyfed-Powys yn ymchwilio i achos o gynnau tân yn fwriadol mewn eiddo yn Hwlffordd, Sir Benfro, yr wythnos ddiwethaf.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw yn dilyn adroddiad o dân mewn adeilad gwag ynghanol y dref toc wedi 4yp ar ddydd Mawrth (Chwefror 27).

Yn ôl yr heddlu, ni chafodd unrhyw un eu hanafu yn ystod y digwyddiad, er bod yr adeilad wedi cael ei ddifrodi’n “sylweddol”.

“Unwaith y cafodd [y tân] ei ddiffodd, cafodd y lleoliad ei archwilio a daethpwyd i’r canlyniad bod y tân fwy na thebyg wedi cael ei gynnau yn fwriadol,” meddai llefarydd.

Mae’r ymchwiliad yn parhau ac mae’r heddlu’n apelio ar unrhyw un a welodd unrhyw beth amheus yn ardal Stryd Ysgubor rhwng 4yh-7yh ar Chwefror 27 i gysylltu a nhw ar 101.