Mae Heddlu Gogledd Cymru yn apelio am dystion ar ôl i ddyn 56 oed farw mewn gwrthdrawiad ger Llyn Gwynant yn Eryri dros y penwythnos.

Cafodd yr heddlu eu galw am 1yp ddydd Sul (Mawrth 3) yn dilyn adroddiad o wrthdrawiad ar ffordd yr A498 rhwng Penygwryd a Nant Gwynant. Dim ond un cerbyd oedd yn y gwrthdrawiad.

Mae ymchwiliad i’r digwyddiad yn cael ei gynnal ar hyn o bryd, wrth i’r heddlu gynnig cefnogaeth i deulu’r dyn fu farw.

Maen nhw hefyd yn awyddus i wybod mwy ynghylch Mazda MX5, gyda’r rhif cofrestru FN52 BNO, a gafodd ei yrru rhwng ardaloedd Nant Gwynant a Corwen rhwng 5.20yb ddydd Iau (Chwefror 28) ac 1yp ddydd Sul.