Mae mosg yn Abertawe yn agor ei ddrysau i’r cyhoedd heddiw, gan estyn gwahoddiad “yn ysbryd cyfeillgarwch a sgwrs”.

Mae’r diwrnod agored yn cael ei gynnal yn y mosg ar Heol San Helen yng nghanol y ddinas rhwng 12 o’r gloch a 5 o’r gloch.

Mae’r trefnwyr yn dweud bod y digwyddiad yn “gyfle i ymwelwyr deimlo’n gartrefol er mwyn crwydro’r mosg, dysgu mwy am y ffydd [Foslemaidd] a diwylliant a phobol Foslemaidd, yn ogystal â gweld y gweithgareddau a’r prosiectau sydd ar y gweill”.

Mae arddangosfeydd presennol y mosg yn trafod y Quran a safbwyntiau Islamaidd am yr Iesu.

Ymhlith y gweithgareddau sy’n cael eu cynnig mae paentio henna a phaentio wynebau, ac mae lluniaeth ysgafn ar gael.

Mae’r trefnwyr yn dweud nad oes angen archebu lle er mwyn cael mynediad.