Mae Heddlu’r De wedi dweud wrth golwg360 eu bod yn “ymchwilio i gwyn” gan Glwb Pêl-droed Caerdydd.

Daw’r cadarnhad yn dilyn adroddiadau bod Willie McKay, asiant y diweddar Emiliano Sala, wedi bygwth lladd staff y clwb.

Roedd e’n gyfrifol am drefnu’r awyren oedd yn cludo’r Archentwr o Nantes i Gaerdydd pan aeth ar goll dros ynysoedd y Sianel ar Ionawr 21.

Daeth timau chwilio o hyd i gorff Emiliano Sala, ond mae’r chwilio am y peilot David Ibbotson yn parhau.

Bygythiadau

Yn ôl y Daily Telegraph, fe wnaeth Willie McKay “fygwth lladd pawb yn y clwb”.

Mae’r papur newydd yn dweud bod y bygythiadau wedi cael eu gwneud dros y ffôn a wyneb yn wyneb.

“Gall Heddlu De Cymru gadarnhau bod cwyn wedi’i derbyn gan Glwb Pêl-droed Caerdydd, a bod ymchwiliad ar y gweill,” meddai llefarydd wrth golwg360.