Mae Jonathan Edwards wedi codi amheuon ynghylch perthynas plaid Wyddelig y DUP a Llywodraeth Prydain, yn dilyn adroddiadau y bydd £140m ychwanegol yn cael ei roi i Ogledd Iwerddon.

Mae sylwadau aelod seneddol Plaid Cymru dros Ddwyrain Caerfyrddin a Dinefwr yn cyfeirio at drydariad gan Nigel Dodds, dirprwy arweinydd y DUP, sy’n nodi bod Gogledd Iwerddon wedi sicrhau £140m “y tu allan i’r broses grantiau bloc arferol”.

Yn ôl Jonathan Edwards, mae lle i holi ai “cytundeb stafell gefn arall” yw hyn, gan gyfeirio at yr £1bn a dderbyniodd Gogledd Iwerddon gan Lywodraeth Prydain yn gyfnewid am bleidleisiau’r DUP yn Nhŷ’r Cyffredin.

Mae’n cyhuddo Llywodraeth Prydain o geisio “prynu pleidleisiau seneddol” wrth gyfrannu arian y tu hwnt i derfynau Fformiwla Barnett.

“Cwestiynau difrifol”

“Mae angen holi cwestiynau difrifol ynglŷn â’r £140m y mae Llywodraeth Prydain, yn ôl pob sôn, yn ei gyfrannu tuag at y DUP,” meddai.

“Os mai cytundeb stafell gefn arall yw hwn, yna mae’n anodd peidio â dod i’r casgliad bod hyn yn ymgais gan Lywodraeth Prydain i brynu pleidleisiau seneddol. Ni ddylai arian trethdalwyr o Gymru gael ei ddefnyddio i brynu pleidleisiau gwleidyddion y DUP.

“Mae cytundebau amheus gyda’r DUP eisoes wedi gweld biliynau yn cael ei gyfrannu tuag at Ogledd Iwerddon, tra bo Cymru wedi derbyn dim cynnydd.

“Mae’n rhaid i Gymru gael rhan deg o’r cyllid, heb unrhyw esgusodion.”