Mae 57% o Gymry’n treulio llai na hanner awr yn yr awyr agored bob dydd, yn ôl astudiaeth newydd gan GO Outdoors.

Mae 51% o’r rhai wnaeth ateb yn dweud eu bod yn gofidio nad ydyn nhw’n treulio digon o amser yn yr awyr agored.

Mae’r astudiaeth hefyd yn dangos bod gan 47% symtomau o brinder fitamin D, ac nad yw 46% yn gwneud digon o ymarfer corff. Dywedodd 39% fod treulio 30 munud yn cerdded bob dydd yn ormod.

Ymhlith y rhesymau sydd wedi’u rhoi mae’r tywydd (66%), salwch (32%) a blinder (23%).

Mae 31% yn dweud eu bod yn gofidio am brinder fitamin D, a 47% yn dweud iddyn nhw gael symtomau prinder fitamin D – a’r symtomau’n cynnwys iselder (26%), blinder dwys (25%), poen ddifrifol (10%) a gwendid cyffredinol (13%).

‘Anodd ysgogi ein hunain’

“Gall fod yn anodd i ysgogi ein hunain i fynd allan a bod yn weithgar yn gorfforol yn ystod y misoedd oeraf, ond mae’n bwysig plethu golau dydd ac ymarfer corff i mewn i’n hamserlen bob dydd lle gallwn ni,” meddai Dr Chris Steele.

“Gall prinder fitamin D gynyddu eich risg o ddatblygu cyflyrau fel clefyd siwgr, afiechyd y galon, mathau o ganser a magu pwysau.

“Ychwanegwch ddiffyg ymarfer corff at hyn ac mae’n bosib y bydd llawer o’r genedl nid yn unig yn datblygu arferion drwg o aeafgysgu, ond iechyd gwael gydag effeithiau tymor hir.”