Mae Heddlu Dyfed-Powys yn apelio am wybodaeth ar ôl i ddyn ddinoethi ei hun yn Aberdaugleddau.

Roedd dynes yn cerdded mewn cae gyda’i chi am oddeutu 5.15 brynhawn dydd Iau (Chwefror 28) pan ddangosodd y dyn ei hun iddi.

Mae’n cael ei ddisgrifio fel dyn yn ei 30au, oddeutu 5’8″ a chanddo groen gwyn. Mae’n bosib ei fod e’n foel.

Mae lle i gredu ei fod e’n gwisgo top tywyll neu goch, a throwsus golau. Roedd ganddo fe gi.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â’r heddlu ar 101.