Bydd un o ddinasoedd yr Unol Daleithiau yn dathlu Dydd Gŵyl Dewi heno trwy oleuo rhai o’i hadeiladau eiconig yn goch.

Cymdeithas Gymreig o’r enw ‘Tafia Chicago’ sydd wedi trefnu’r goleuadau, ac mae’n debyg eu bod wedi bod yn gwneud hynny ers 2009.

Cadeirydd y grŵp yw Dave Parry, 43 – sy’n hanu o Aberystwyth – ac mae’n cynnig blas o’u cynlluniau â brwdfrydedd.

“Rydym wedi bod yn dathlu Dydd Gŵyl Dewi am dros ugain blynedd yma,” meddai wrth golwg360.

“A’r flwyddyn hon byddwn yn cynnal digwyddiad mewn lle o’r enw’r Cambrian Hotel. Cyd-ddigwyddiad yw’r enw!

“Hefyd rydym wedi sicrhau bod sawl adeilad yn Chicago yn cael eu goleuo [yn goch] yn ystod y nos. Bydd tua wyth adeilad yn goleuo i fyny ar gyfer y noson, gan gynnwys Adeilad Wrigley.”

Y grŵp

Mae Dave Parry yn egluro bod 300 o bobol o gefndiroedd Cymreig yn byw yn ardal Chicago, ac mae’n egluro sut ddaeth y ‘Tafia’ i fodolaeth.

“Roeddwn i’n gweld bod cymdeithasau i’r Gwyddelod a’r Albanwyr ond doedd dim un i Gymru,” meddai wrth golwg360.

“Ac roeddwn i’n parhau i ddod ar draws pobol Cymraeg mewn tafarndai ac yn y blaen, felly wnaethom ni benderfynu bwrw ati a sefydlu’r grŵp yn 1999.”