Yr adeg yma y llynedd, roedd roedd Adam Barnett o Boston, America, yn dathlu Dydd Gŵyl Dewi am y tro cyntaf gyda Chymry, yng Nghymru.

Roedd hynny wrth iddo gyrraedd hanner ffordd ar ei gwrs ôl-radd Cymraeg ac Astudiaethau Celtaidd ym Mhrifysgol Caerdydd, ac ers hynny, cryf a chynnes yw ei gariad at Gymru a’i ffrindiau yno.

Dywedodd Adam Barnett, sy’n 25 oed, wrth golwg360 sut y mae’n “caru Cymru, ac yn colli Cymru.”

Roedd ganddo ddiddordeb mawr yn hanes yr Hen Ogledd, y Gododdin, yr iaith Gymraeg ac fe gafodd “amser gorau ei fywyd” yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd llynedd.

Yn ystod ei amser yng Nghaerdydd cafodd ei gyflwyno i lu o gigs Cymraeg, a gwrando yn ôl ar sŵn y brifddinas yn ystod ei amser yno yw ei gynllun heddiw.

“I ddathlu Dydd Gŵyl Dewi rydw i yn gwrando ar gerddoriaeth Gymreig, bandiau class fel ARGRPH, Los Blancos, Papur Wal, a Mellt,” meddai.

“Heddiw dwi’n colli pobol Cymru mwy ‘na dim,” ychwanegodd.

Bydd Adam Barnett yn ail ymgynnull a’i ffrindiau yng Nghymru yn ystod yr haf pan mae’n graddio o Ysgol y Gymraeg yng Nghaerdydd, dyma neges fach ganddo yn y Gymraeg: https://www.youtube.com/watch?v=Ta_98TW1aqc&feature=youtu.be