Mae dwy ddynes o ardal Y Barri wedi cael eu harestio ar amheuaeth o werthu cyffuriau caled.

Fe gafodd y ddwy eu dwyn i’r ddalfa ddoe (dydd Iau, Chwefror 28) wrth i swyddogion yr heddlu chwilio tri lleoliad yn y dref glan y môr.

Mae’r ddynes 51 oed yn cael ei hamau o ddelio cyffuriau dosbarth A, tra bo’r ddynes 42 oed yn cael ei hamau o fod mewn cysylltiad â chyffuriau dosbarth C.

Mae’r ddwy o ardal y Cwrt yn Y Barri, ac yn cael eu cadw mewn gorsaf heddlu ym Mhen-y-bont ar Ogwr.