Bu Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Alun Cairns, a chynrychiolwyr o’r byd busnes yng Nghymru yn bresennol mewn seremoni i agor y farchnad stoc yn Llundain heddiw (dydd Gwener, Mawrth 1).

Yn ôl yr ysgrifennydd ei hun, cafodd y cyfan ei drefnu er mwyn dathlu dydd nawddsant Cymru a thanlinellu cyfraniad cwmnïau o Gymru i’r llwyfan rhyngwladol.

Ymhlith y busnesau a ymunodd ag Alun Cairns oedd IQE, Delio Wealth a Newport Wafer Fab, yn ogystal â chynrychiolwyr o gyrff busnes yng Nghymru.

Mae’r Seremoni Agor y Farchnad yn cael ei chynnal bob dydd am 8yb ym Mhencadlys Marchnad Stoc Llundain.

‘Diwrnod o ddathlu’

“Mae Dydd Gŵyl Dewi yn ddiwrnod pwysig i Gymru gyfan er mwyn ystyried cryfder ein hanes, ein hiaith a’n diwylliant unigryw,” meddai Alun Cairns.

“Mae hefyd yn goffâd pwysig o egni’r Gymru fodern. Rydym yn gartref i rai o gwmnïau mwyaf blaengar y byd ac mae ein cynnyrch a’n gwasanaethau mewn diwydiannau, megis lled-ddargludyddion, diogelwch seibr, ar sector ariannol ac yswiriant, yn cael eu hallforio i bedwar ban y byd.

“Mae Llywodraeth Prydain yn gweithio’n galed i barhau â’r gwaith o gefnogi cwmnïau Cymreig i gael mynediad ac ymestyn i farchnadoedd sy’n tyfu ledled y byd.

“Dw i’n gobeithio y gall cwmnïau Cymreig gael eu hysbrydoli gan y digwyddiad heddiw er mwyn cychwyn eu stori ryngwladol lwyddiannus eu hunain.”