Mae bwriad i greu ffilm gomedi yn seiliedig ar stori achos cyffuriau Operation Julie wedi ennyn ymateb cymysg gan drigolion lleol yng nghanol Ceredigion.

Mae cwmni cynhyrchu ffilmiau o Lundain – Worldmark Films – am selio’r ffilm ar lyfr gan Stephen Bentley, un o swyddogion cudd yr heddlu a fu’n byw fel hipi yn ardal Llanddewi Brefi ar drothwy’r cyrch cyffuriau mwyaf yn hanes gwledydd Prydain.

Mae ei lyfr – Undercover: Operation Julie – The Inside Story – yn canolbwyntio ar y modd y daeth yn gyfeillgar â’r deliwr cyffuriau, Alston ‘Smiles’ Hughes, a fu’n byw mewn tŷ yn y pentref yng nghanol yr 1970au.

Cafodd ei arestio yn dilyn ei gysylltiad ag un o ddau rwydwaith LSD â oedd â chysylltiadau ag ardaloedd yng Ngheredigion, Powys a Llundain.

Cofio’r deliwr cyffuriau a’i ‘garedigrwydd’

Yn ôl Yvonne Edwards, perchennog y dafarn leol yr arferai ‘Smiles’ ymweld â hi, mae’n bryd rhoi’r hanes am y cyrch “i’w wely”, ac mae’n cyfeirio at y ffaith ei fod eisoes wedi bod yn destun ffilm yn yr 1980au (Operation Julie).

Roedd hi’n ddeunaw oed adeg pan gafodd ‘Simles’ ei arestio adeg y cyrch enwog, ond ychwanega fod pobol leol yn dal i gofio amdano ef a’i deulu fel “pobol garedig”.

“Adeg y Nadolig, roedd ‘Smiles’ yn mynd â phresante rownd i’r hen bobol,” meddai. Roedden nhw’n bobol a oedd ishe ffitio i mewn… roedden nhw mo’yn bod yn rhan o’r pentref.

“Os ydych chi’n gofyn i bobol Llanddewi sy’n eu cofio nhw, dw i’n credu mai dim ond gair da fyddech chi’n ei glywed amdanyn nhw.”

“Stori ffantastig”

Yn ôl Kevin Wilson o Lanfair Clydogau, ar y llaw arall, mae stori Operation Julie yn un sy’n haeddu cael sylw gan ei fod yn “ennyn diddordeb” pobol.

Mae’r gŵr, sy’n rhedeg busnes llogi bythynnod, yn dweud ei fod wedi ceisio cael criwiau ffilmio i wneud ffilm am yr hanes “ers blynyddoedd”.

“Fe fydd yn ffantastig i ni,” meddai wrth gyfeirio at yr hwb i dwristiaeth yr ardal.

“Unwaith y gwnes i ddarllen y llyfr [am Operation Julie], roeddwn i’n meddwl ei fod yn anhygoel…

“Dw i’n edrych ymlaen at weld sut mae’r bobol hyn yn dadansoddi’r hanes. Yn amlwg fe fydd yna rai newidiadau… ond dw i’n edrych ymlaen at weld y ffilm.”