Dyw’r Cymry ddim yn llwyr werthfawrogi y cysylltiad rhwng ei gwlad â dinas Lerpwl, yn ôl gweinidog a hanesydd sydd wedi treulio’r rhan orau o’i oes yno.

Mae David Benjamin Rees – neu D Ben Rees – yn dweud bod gan y Cymry “etifeddiaeth gyfoethog dros ben yn y ddinas”, ac mae’n tynnu sylw at bethau fel ymadawiad llong y Mimosa am Batagonia, ynghyd â magwraeth Saunders Lewis – sy’n rhwymo Cymru a Lerpwl at ei gilydd am byth.

Mae hefyd yn cyfleu siom am anwybodaeth y Cymry.

“Mae nifer mawr o Gymru yn sylweddoli bod ganddyn nhw gysylltiad agos â Lerpwl,” meddai wrth golwg360. “Mae eu rhieni, neu eu neiniau a’u teidiau, wedi bod yma yn Lerpwl yn gwasanaethu ac yn byw.

“Ond yn gyffredinol dw i ddim yn meddwl bod Cymry Cymraeg deallus yn sylweddoli gymaint o gyfraniad wnaeth y Cymry.

“A [dydyn nhw ddim yn sylweddoli] cymaint mae Lerpwl yn ei olygu o fewn fframwaith y Gymru estynedig.”

Cymru a Lerpwl

Ar ddechrau’r 19eg ganrif roedd 10% o boblogaeth y ddinas yn Gymry, ac mae’r ddinas wedi cynnal pedwar Eisteddfod yn y gorffennol.

Cafodd Saunders Lewis – un o sefydlwyr Plaid Cymru – ei fagu mewn tref ar gyrion Lerpwl, ac mi fynychodd Prifysgol Lerpwl.

Ar fwrdd y Mimosa y teithiodd 153 o Gymry i Batagonia, De America. Mi adawon nhw Lerpwl arni ar Fai 28, 1865.

Capeli Cymreig

Yn y gorffennol roedd yna dros 50 o gapeli Cymreig yn Lerpwl, ond bellach dim ond tri sydd ar ôl.

Mae D. Ben Rees yn mynychu Capel Bethel, sydd bellach gyda 100 aelod ond a oedd yn denu rhwng 600 a 700 o bobol ar ei hanterth. Ac mae’n rhannu ei farn ynghylch y mater.

“Dyna’r dirywiad pennaf, gweledol, y gallwch chi weld,” meddai. “Mae’r canolfannau yma wedi prinhau. Marwolaethau, yn fwy na phobol yn troi cefn, [sy’n gyfrifol am hynny].”