Mae ffilm newydd am y cyrch cyffuriau mwyaf yn hanes gwledydd Prydain am gynnwys actorion a cherddoriaeth o Gymru, yn ôl ei chynhyrchwyr.

Roedd Operation Julie, a oedd yn cynnwys 800 o swyddogion o 10 llu gwahanol, yn gyfrifol am ddiweddu dau rwydwaith LSD a oedd â chysylltiadau ag ardaloedd yng Ngheredigion a Phowys yn ystod yr 1970au.

Ychydig dros ddeugain mlynedd ers y digwyddiad, mae cwmni cynhyrchu ffilmiau o Lundain – Worldmark Films – yn bwriadu creu ffilm gomedi ar y pwnc.

Daw’r bwriad ar ôl iddyn nhw brynu hawliau i lyfr gan Stephen Bentley, un o swyddogion cudd yr heddlu a fu’n byw fel hipi yn ardal Llanddewi Brefi ar drothwy’r cyrch.

Cerddoriaeth ac actorion Cymraeg

Yn ôl David Wooster, Rheolwr Gyfarwyddwr Worldmark Films, mae’r ffilm am fod yn un “ysgafn a phositif sy’n llawn sbort”.

Bydd y cyfan yn cael ei ffilmio a’i chynhyrchu yng Nghymru, meddai, gyda sylw penodol yn cael ei roi i’r diwylliant lleol yn ardaloedd Tregaron a Llanddewi Brefi – prif ganolbwynt y stori.

“Rhywbeth y gwnaethon ni ei sylwi yn gynnar yw’r ffaith y bydd o fantais i gael y Gymraeg [yn y ffilm],” meddai David Wooster wrth golwg360.

“Gan fod llawer o gymeriadau Cymraeg ynddo, fe fydd yna yn sicr ambell olygfa yn Gymraeg.”

“Rydyn ni hefyd yn ystyried cynnwys nid yn unig actorion Cymraeg, ond bandiau o Gymru hefyd. Un o’r pethau sydd o dan ystyriaeth yw creu cerddoriaeth ar gyfer y ffilm gan ddefnyddio bandiau o Gymru.”

Creu’r ffilm “y flwyddyn nesaf”

Er ei bod hi’n ddyddiau cynnar ar hyn o bryd, dywed David Wooster fod sgript y ffilm eisoes yn barod ar ôl i’w hawduron, Ryan Cull a Jack Cheshire, dreulio cyfnodau yn gwneud gwaith ymchwil yng Ngheredigion.

Y cam nesaf, meddai, yw castio a chasglu arian ar gyfer y cynhyrchu, ond mae’r cynhyrchydd yn gobeithio y bydd y broses o greu’r ffilm yn cychwyn “y flwyddyn nesaf”

“Mae’r momentwm rydyn ni’n ei gael o ran adborth o’r diwydiant ffilm yn hynod bositif,” meddai wedyn.

“Ein targed yw ffilmio’r cyfan yn ystod tymor yr haf y flwyddyn nesaf.”