Bydd defnyddio’r Gymraeg ochr yn ochr â’r Ddraig Goch yn “hwb” i fusnesau wedi Brexit, yn ôl Comisiynydd y Gymraeg.
Daw ei sylwadau wrth i ystadegau swyddogol ddangos bod 82% o arweinwyr busnes yng Nghymru yn cytuno bod defnyddio’r Gymraeg yn ychwanegu gwerth at gynnyrch neu wasanaeth.
Yn ôl Meri Huws, bydd busnesau cynhenid ledled y wlad “ar eu colled yn aruthrol” os collir y brand Cymreig.
Ffigyrau
Fe fydd Comisiynydd y Gymraeg yn cynnal digwyddiad gyda phenaethiaid busnes yn Llundain heddiw (dydd Mercher, Chwefror 27) er mwyn rhannu’r achos busnes dros ddefnyddio’r Gymraeg.
Mae ymchwil diweddar yn dangos bod cwsmeriaid Cymraeg a di-Gymraeg yng Nghymru yn gweld gwerth mewn defnyddio’r iaith, meddai.
Yn ôl ystadegau, mae 68% yn hoffi gweld y Gymraeg yn cael ei defnyddio, tra bo 83% yn cytuno bod y defnydd o’r iaith yn dangos cefnogaeth i’r diwylliant Cymreig.
Mae ymchwil pellach gydag arweinwyr busnes wedyn yn dangos bod:
- 76% yn cytuno bod defnyddio’r Gymraeg yn denu cwsmeriaid;
- 82% yn cytuno bod defnyddio’r Gymraeg yn ychwanegu gwerth at gynnyrch neu wasanaeth;
- 84% yn cytuno bod defnyddio’r Gymraeg yn gwella brand y busnes.
‘Rhaid cadw’r brand’
“Mae’r iaith Gymraeg yn nod unigryw yng Nghymru, ac yn gynyddol, mae’n cael ei defnyddio i hyrwyddo Cymru ar y llwyfan rhyngwladol,” meddai Meri Huws.
“Pan oedd tîm pêl-droed Cymru yn cystadlu yn yr Ewros yn 2016, roedd yr iaith yn ganolog i ymgyrchoedd marchnata’r Gymdeithas Bêl-droed, eu noddwyr a busnesau eraill a welodd y cyfle i ddefnyddio llwyddiant y tîm i hyrwyddo’u cynnyrch…
“Os collir y brand Cymreig, a’r brand Cymraeg, wedi Brexit, fe fydd ein busnesau cynhenid ar eu colled yn aruthrol,” meddai wedyn.
“Fy neges i felly yw os yw busnes eisiau denu a chadw cwsmeriaid ac os ydym am weld busnesau Cymru’n llwyddo ar y llwyfan rhyngwladol, yna fe ddylem wneud popeth o fewn ein gallu i’w hannog i ddatblygu brand Cymreig a Chymraeg cryf a chofiadwy a chadw’r Gymraeg yn ganolog yn eu busnes.”